Deiseb a gwblhawyd Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau na gwerthu tir i lywodraeth y DU i ddatblygu archgarchar ym Maglan. 

Mae Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnig adeiladu 'archgarchar' â lle i 1600 o ddynion ar rostir Baglan. 

Mae'r safle yn agos at gartrefi a chyfleusterau lleol a busnesau lleol, a bydd yn rhoi straen sylweddol ar ffyrdd a gwasanaethau iechyd yn yr ardal.  Mae'r safle mewn parth menter ac wedi'i ddynodi ar gyfer defnydd economaidd yn ogystal â bod mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd.  

Mae gan Gymru eisoes lawer o leoedd gwag yn y carchardai sydd ganddi ar hyn o bryd.

Byddai'r carchar hwn yn cyflwyno'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â charchardai mawr ac ni chafwyd unrhyw warant gan y naill lywodraeth na'r llall ynglŷn â'r camau amddiffyn a fyddai'n cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo Port Talbot i ymdopi â nifer mor fawr o garcharorion. 

Nid oes unrhyw sicrwydd tymor hir y byddai'r carchar newydd yn parhau i gael ei neilltuo ar gyfer carcharorion categori C. Gellid ei newid yn y dyfodol i gadw troseddwyr mwy peryglus. 

Gall Port Talbot wneud yn well na hyn ac mae ein tref yn haeddu llawer mwy. A wnewch chi lofnodi'r ddeiseb a dweud wrth Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, DIM archgarchar ym Mhort Talbot?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

8,791 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 6 Rhagfyr 2017

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2017.