Deiseb a gwblhawyd Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i adnabod yn briodol a chefnogi'n effeithiol yr unigolion hynny yr effeithir arnynt ac a niweidir gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a'r adwaith wrth ddiddyfnu oddi wrthynt.

Sefydlwyd y ddeiseb hon i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa unigolion yng Nghymru yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau gwrth-iselder a bensodiasepinau ar bresgripsiwn a'r adwaith wrth geisio diddyfnu oddi wrthynt. Yn benodol gofynnwn i Lywodraeth Cymru gefnogi galwad Cymdeithas Feddygol Prydain ledled y DU am gamau i ddarparu cymorth amserol a phriodol ar gyfer unigolion yr effeithir arnynt.

Mae'r term "dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn" yn cyfeirio'n benodol at y sefyllfa lle mae cleifion, ar ôl cymryd eu meddyginiaeth gwrth-iselder neu bensodiasepin yn union fel a ragnodwyd gan eu meddyg, yn gweld na allant roi'r gorau oherwydd yr effeithiau diddyfnu difrifol. Mae'n bwysig nodi yma bod caethiwed a dibyniaeth yn gysylltiedig â'i gilydd, ond yn faterion gwahanol. Mae defnyddio'r term 'bod yn gaeth' yn awgrymu bod yr unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn ceisio pleser. Mae adroddiadau am ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y cyfryngau yn parhau i gyfeirio at "camddefnyddio" a "bod yn gaeth" fel pe bai'r claf yn gyfrifol mewn rhyw ffordd am ei niwed ei hun. Mae hyn ymhell o'r gwir. Ni cheir unrhyw bleser o gwbl o sylweddoli eich bod yn dioddef amrywiaeth eang o symptomau corfforol ac emosiynol wrth geisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth gwrth-iselder neu cymryd llai ohoni. Mewn rhai achosion, gall y symptomau gyfyngu ar fywyd pobl ac, yn drasig, gallant fod yn angheuol hyd yn oed. Mae ar gleifion angen cydnabyddiaeth ffurfiol, cymorth ac arweiniad i'w helpu drwy eu taith o roi'r gorau i'r feddyginiaeth ac nid yw hynny'n bodoli ar hyn o bryd.

Rhagor o fanylion

​Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw at broblem dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Ym mis Mai 2017 ysgrifennodd: "Prescribing of psychoactive drugs is a major clinical activity and a key therapeutic tool for influencing the health of patients. But often their use can lead to a patient becoming dependent or suffering withdrawal symptoms. In the absence of robust data, we do not know the true scale and extent of the problem across the UK. However, the evidence and insight presented to us by many charity and support groups shows that it is substantial. It shows us that the 'lived experience' of patients using these medications is too often associated with devastating health and social harms. This represents a significant public health issue, one that is central to doctors' clinical role, and one that the medical profession has a clear responsibility to help address." Oherwydd nad yw sgil effeithiau, effeithiau goddefiad ac effeithiau diddyfnu'r meddyginiaethau hyn yn cael eu hadnabod yn feddygol am yr hyn ydynt, pan fydd cleifion yn datblygu'r effeithiau/symptomau cysylltiedig hyn maent yn aml yn cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau eraill ac yna mae'r gymysgedd o nifer o feddyginiaethau yn cymhlethu'r problemau ymhellach.

Mae cleifion yr effeithir arnynt yn eu cael eu hunain â diagnosis amwys, e.e.'symptomau heb esboniad meddygol' neu 'anhwylderau'r system anorganaidd / corfforol'. Yn y bôn, diagnosis seiciatrig yw pob un o'r rhain, yn priodoli amrywiol symptomau corfforol sy'n gwanychu a llesgáu'r claf i'w bryder a'i gredoau ac ati ei hun.  Effaith hyn yw diystyru, diraddio a digalonni rhagor ar y cleifion hyn. Os na ellir cydnabod bod modd i gleifion ddioddef niwed a chamweithrediad anorganaidd parhaus ar y system nerfol o ganlyniad i gymryd meddyginiaethau 'yn unol â'r presgripsiwn' (weithiau dros lawer o flynyddoedd), bydd dysg a gwelliant meddygol systemig yn cael eu llesteirio a bydd cleifion yn parhau i gael eu niweidio ymhellach. Yn y cyfamser ni sylweddolir o hyd faint y risgiau wrth roi'r presgripsiwn cychwynnol, ac mae'r canllawiau camarweiniol a'r cyngor 'arfer gorau' ar gyfer rhoi meddyginiaethau o'r fath ar bresgripsiwn yn parhau yr un fath.​

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

213 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 22 Mai 2019

Gwyliwch y ddeiseb ‘Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2019.

Busnes arall y Senedd

Adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau ac yn dilyn hynny fe gynhaliwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn: http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld12429/cr-ld12429-w.pdf

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 15 Mai 2019:
http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld12521/gen-ld12521-w.pdf