Deiseb a gwblhawyd Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAwG) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) i ganiatáu i fwy o geiswyr lloches allu cymryd rhan mewn addysg bellach.

Rhagor o fanylion

​Yn y cyfnod anodd hwn pan mae chwyddiant yn cynyddu ac mae eitemau bob dydd yn mynd yn fwyfwy drud i ddinasyddion y DU hefyd, mae bron yn amhosibl i geiswyr lloches symud ymlaen ymhellach yn eu haddysg uwch/mynediad. Rydym ni (Ceiswyr Lloches) yn cael ychydig dros £5 y dydd yn unig gan y Swyddfa Gartref, ac o'r swm hwn mae'n rhaid prynu bwyd, dillad, costau cludiant dyddiol ac mae'r rhestr yn parhau. Hyd yn oed pe byddwn yn ceisio rhywsut (trwy dorri i lawr ar fwyd neu rywbeth arall pwysig) mae cost y cludiant ar gyfer y cwrs cyfan gan gynnwys unrhyw daliadau eraill fel cofrestru a gofal plant yn ormod i allu ymdopi â hwy. Fy mhwynt yw na ddylid gwahaniaethu rhwng ceisiwr lloches ac unrhyw berson arall sy'n byw yng Nghymru os yw'r ddau'n ceisio mynd i'r coleg ar gyfer cyrsiau addysg uwch/mynediad. Os yw person o Gymru yn cael CAwG a GDLlC yna dylai ceisiwr lloches hefyd dderbyn y ddau, neu unrhyw gymorth cysylltiedig arall a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen yn ei fywyd. Oherwydd costau a grybwyllwyd eisoes, rwyf wedi gweld cynifer o geiswyr lloches yn gwrthod eu cyfle i ymgymryd ag addysg uwch. Mae hefyd yn golygu na fyddant yn gwneud unrhyw beth cynhyrchiol gan nad yw gweithio'n cael ei ganiatáu, a bydd eistedd gartref yn eu gwneud yn fwy rhwystredig. Hoffwn hefyd sôn am enghraifft ddiweddar pan y gwnaeth person anghenus (y gwrthodwyd ei gais am loches ac y cafodd ei gymorth ariannol a'i dŷ ei dynnu'n ôl gan y Swyddfa Gartref) gyflawni hunanladdiad. Roedd yn byw yn y sefyllfa hon ers peth amser ac nid oedd yn gallu gwneud defnydd o'i fywyd. Rwy'n credu pe byddai wedi cael cyfle efallai na fyddai wedi mynd mor bell â hynny. Byddai galluogi mwy o geiswyr lloches i gael addysg nid yn unig yn rhoi rhywfaint o bwrpas iddynt mewn bywyd ond byddai hefyd yn cyfoethogi'r gymuned lle maent yn byw. Wedi'r cyfan, o dderbyn ein trwydded breswyl, byddem yn annibynnol ac yn rhydd i weithio a bydd yr addysg hon yn ein helpu mewn sawl ffordd i lunio ein teuluoedd a'n cymunedau mewn ffyrdd llawer gwell.​

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

78 llofnod

Dangos ar fap

5,000