Deiseb a gwblhawyd Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru ac adolygu strwythur y cwrs i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys tasg sy’n annog gamblo dan oed a diofalwch ariannol.

Mae ein plant yn haeddu’r hawl i ragori ar y llwyfan byd-eang. Mae tua 70% o’u hastudiaethau eisoes yn bynciau gorfodol ac mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd cyfleoedd oddi wrthynt oherwydd na allant astudio’r holl bynciau y maent yn dymuno mynd ar eu trywydd. Efallai bod y 'cymhwyster' yn ffordd o dicio blwch ond nid yw’n helpu myfyrwyr Cymru i wireddu eu potensial (gweler y detholiad dilynol o adroddiad gan Lywodraeth Cymru). Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar weddill eu bywydau ac ar eu rhagolygon gyrfa at y dyfodol. Rhowch yr un cyfleoedd i blant sy’n astudio yn ysgolion Cymru â’r rheini o wledydd eraill y Deyrnas Unedig a gwnewch addysg Cymru yn rhywbeth i fod yn falch ohono eto.

Rhagor o fanylion

Daw’r canlynol o adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun i gymhwyster Bagloriaeth Cymru (Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, Ionawr 2015), gan nodi – Roedd canfyddiadau adroddiad WISERD yn ddwy ran yn bennaf. Daeth i'r casgliad fod CBC yn arbennig o werthfawr o ran paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, o bosibl oherwydd y pwysau sydd ganddo yn nhariff UCAS. Ar yr un pryd, roedd yr adroddiad yn cefnogi canfyddiad blaenorol mewn adroddiad yn 2011 yn benodol ar Brifysgol Caerdydd nad oedd elfen Graidd CBC gyfwerth â gradd A Safon Uwch. At hynny, daeth i'r casgliad fod myfyrwyr gyda CBC yn fwy tebygol o dynnu'n ôl o'r brifysgol ac yn llai tebygol o sicrhau 'gradd dda', a ddiffinnir fel gradd Dosbarth Cyntaf neu radd Ail Ddosbarth Uwch.

Mae'r adroddiad yn dadlau y gall y ddau ganfyddiad fod yn gysylltiedig. Daw i'r casgliad yr ymddengys fod CBC yn gwella'r tebygolrwydd o fynd i'r brifysgol, gyda phopeth arall yr un peth; ond ymddengys y daw'r fantais hon ar draul canlyniadau llwyddiannus yn y brifysgol.​

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

60 llofnod

Dangos ar fap

5,000