Deiseb a gwblhawyd Ailagor Gorsaf Carno

​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn croesawu'r gwaith o ddatblygu Achos Busnes ar gyfer ailagor gorsaf Carno, yn dilyn deiseb Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno i'r Cynulliad 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn nodi bod yr achos busnes diwygiedig yn dangos cymhareb o 1.65 o ran manteision i gostau ac y byddai stopio'r rhan fwyaf o drenau yng Ngharno yn cyd-fynd â'r amserlen lawnach bresennol. Mae Carno yn gymuned cymharol anghysbell, sydd wedi'i lleoli ar y darn hiraf o reilffordd heb orsaf weithredol arni yng Nghymru gyfan. Byddai cael gorsaf yma yn rhoi mynediad llawer gwell a chynaliadwy at swyddi a gwasanaethau. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf Carno yn unol ag amserlen o bum mlynedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

877 llofnod

Dangos ar fap

5,000