Deiseb a gwblhawyd Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw am i athrawon cyflenwi gael eu talu'n deg a chael mynediad llawn at gyfleoedd hyfforddi a thelerau ac amodau eraill. Dylai fod athro cymwys ym mhob ystafell ddosbarth a dylai arian trethdalwyr fod yn cael ei wario'n uniongyrchol ar addysg, heb fynd i bocedi asiantaethau preifat.
Rhagor o fanylion
Mae athrawon cyflenwi'n cael cam ac mae athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd na allant fforddio bod yn athrawon cyflenwi.
Mae asiantaethau'n lleihau cyflog athrawon cyflenwi 40 i 60 y cant ac mae athrawon yn colli eu pensiynau. Mae'r sefyllfa'n enghraifft o ddefnyddio arian cyhoeddus i greu elw i'r sector preifat. Mae gwersi'n cael eu darparu gan staff anghymwys.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar Ddeiseb P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon ar 18 Mawrth 2021: https://senedd.cymru/media/kbxeha5n/cr-ld14241-w.pdf
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/documents/s116767/Ymateb%20Llywodraeth%20Cymru%20i%20adroddiad%20y%20pwyllgor.pdf