Deiseb a gwblhawyd Band eang cyflym i bentref Llangenni

​​Rydym ni, preswylwyr pentref Llangenni ym Mhowys, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rheoli eu contract am fand eang cyflym yng Nghymru gyda BT mewn modd fel y bydd pentref Llangenni wedi cysylltu â chyflymder uchel erbyn 31 Rhagfyr 2017.

Rhagor o fanylion

​​Ar hyn o bryd, mae preswylwyr yn ein pentref yn profi colli gwasanaeth yn rheolaidd neu gyflymder mor isel â 0.01Mb/s. Mae llawer o breswylwyr yn rhedeg busnesau neu sefydliadau gwirfoddol o adref ac mae angen band eang cyflym arnynt. Mae'r gwasanaeth presennol yn gwbl annerbyniol.​

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

72 llofnod

Dangos ar fap

5,000