Deiseb a gwblhawyd Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno "Tystysgrif Mynediad" yn dangos rhifau o ddim i bump yn yr un modd â'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dylid asesu pob adeilad a ddefnyddir gan y cyhoedd fel siopau, siopau bwyd, clybiau chwaraeon, tafarndai a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl pa mor hygyrch pa mor hygyrch ydynt i gadeiriau olwyn, yn ogystal â pha mor hawdd ydynt i rywun sydd â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu defnyddio.
Rydym eisiau i bob safle busnes gael rhif i'w arddangos i ddangos sut mae ei adeiladau yn ystyried pobl anabl. Rydym yn gobeithio y bydd y rheini sy'n cael sgoriau uchel yn darbwyllo safleoedd cyfagos i wella mynediad ac ennill sgôr uchel eu hunain.
Pan gyflwynwyd Tystysgrifau Hylendid Bwyd gyntaf yng Nghymru, nid oeddent yn orfodol, ond fe ddaethant yn orfodol yn ddiweddarach. Ers cyflwyno'r Dystysgrif Hylendid Bwyd, rydym yn credu bod safonau bwyd wedi gwella'n helaeth ac mae safleoedd sydd â rhif uchel yn arddangos eu tystysgrifau â balchder. Rydym yn credu y bydd safleoedd yn gwneud mwy o ymdrech i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned anabl pe bai Tystysgrif debyg ar gyfer mynediad yn cael ei chyflwyno.
Rhagor o fanylion
Rydym yn credu y bydd cyflwyno tystysgrif o'r fath yn gwella'n aruthrol y gwasanaethau i siopwyr anabl a'r rheini sydd eisiau mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sef cyfleusterau y mae'r rhan fwyaf yn eu cymryd yn ganiataol.
Er mwyn ennill sgôr o bump, yn ogystal â bod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, bydd angen i safleoedd fod yn gwbl gynhwysol i'r rheini â nam ar eu golwg a'u clyw, ac o bosibl bod gan staff ddealltwriaeth o'r rheini ag anabledd dysgu.
Mae bwyty â bwydlen braille neu staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a chynnig profiad llawer haws a llai o straen i rywun wrth wneud y pethau bob dydd y mae'r rhan fwyaf yn eu cymryd yn ganiataol.
Un syniad posibl, yn ogystal â chael sgôr dim i bump, fyddai cael symbolau ychwanegol o dan hyn i ddangos a oes gan safle fynediad llawn i gadeiriau olwyn, toiledau hygyrch, gwybodaeth mewn braille neu staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion, ac a yw'n ystyried awtistiaeth.
Rydym yn teimlo y byddai hyn yn arwain at welliannau mawr. Mae llawer o siopau bwyd yn cystadlu â'i gilydd i gael sgôr uwch ac rydym yn gobeithio y bydd hyn hefyd yn digwydd yn achos Tystysgrif Mynediad.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon