Deiseb a gwblhawyd Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

​Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u hariannu yn annibynnol ar Gymorth i Fenywod Cymru a'r holl fudiadau cysylltiedig.

Y diffiniad traws-lywodraethol o drais a cham-drin yn y cartref yw: "Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o achosion o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth sy'n rheoli, yn gorfodi, yn bygwth, rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb."

Gall Cam-drin yn y Cartref effeithio ar unrhyw un. Mae mwy o ddioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn chwilio am help, cyngor, cymorth a  diogelwch nag erioed o'r blaen. Mae'n bwysig bod dioddefwyr gwrywaidd yn haeddu cymorth a chyllid annibynnol gan grwpiau penodol o ran rhywedd fel Cymorth i Fenywod Cymru a grwpiau cysylltiedig.

Mae dioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn haeddu cymorth/help sy'n benodol i'w hanghenion, tra'n parhau i gynnal eu hurddas, a rhoi diogelwch iddynt hwy a'u plant sy'n gyfartal ac yn debyg i'r hyn y mae menywod yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

Rhagor o fanylion

​Mae'r ystadegau Cam-drin yn y Cartref cyfredol ledled Cymru a Lloegr yn nodi y bydd Cam-drin yn y Cartref yn effeithio ar 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn ystod eu hoes.

Mae Cam-drin/Trais yn y Cartref yn broblem a all effeithio ar unrhyw un, felly oni ddylem fod yn:

"Rhoi pobl a'u plant yn gyntaf."

Nid oes mwy o fwlch o ran argaeledd gwasanaethau a chymorth yn seiliedig ar ryw person yn unig ar draws Cymru a'r DU.

Mae angen i agweddau newid oherwydd ni ddylai neb (a'u plant) barhau heb ddiogelwch a chymorth mewn modd mor gyhoeddus a chywilyddus oherwydd eu rhyw yng Nghymru, yn yr oes sydd ohoni.

 Cefnogwch hyn i helpu i gefnogi eraill.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

138 llofnod

Dangos ar fap

5,000