Deiseb a gwblhawyd Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

​Mae'r dystiolaeth ar gael i'r rhai sydd am ei gweld ... mae ein dibyniaeth ar blastig untro a daflir i ffwrdd yn gwenwyno ein byd naturiol.

Mae adar y môr yn bwyta plastigau, mae pysgod yn bwyta plastigau, mae pysgod cregyn yn bwyta plastigau ac rydym ni, felly, yn bwyta plastigau.

Mae cynhyrchu plastigau untro yn cynyddu bob blwyddyn, ond dim ond 9 y cant o blastigau sy'n cael eu hailgylchu yn y byd.

Ers i gynhyrchu plastigau ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au, rydym wedi cynhyrchu 8.3 biliwn o dunelli ... yn gyfwerth â phwysau un biliwn o eliffantod Affricanaidd! A disgwylir i'r ffigur hwnnw gyrraedd 34 biliwn o dunelli erbyn 2050!!

Nid oes dim o'r plastig hwn wedi bioddiraddio yn ystod y cyfnod hwn, ond yn hytrach mae wedi parhau i leihau, gan ei wneud bron yn amhosibl i'w ddileu!

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar yr holl blastigau untro sy'n debyg i'r taliad 5p llwyddiannus iawn ar fagiau siopa untro.

Mae'n bryd gweithredu. 

Rhagor o fanylion

​Grŵp gwirfoddol yw Cyfeillion Traethau'r Barri, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, y mae ei nod yw cael gwared â sbwriel, llawer ohono yn blastig, o bum prif draeth y Barri. Rydym yn ymdrechu i ailgylchu cymaint ohono ag y gallwn.

Mae angen inni ddylunio ein pecynnau a'n cynwysyddion untro fel eu bod yn bioddiraddio'n hawdd yn ein hamgylchedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

102 llofnod

Dangos ar fap

5,000