Deiseb a gwblhawyd Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu unrhyw ganllawiau y mae’n eu rhoi o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae llawer o blant ledled Cymru yn dioddef o salwch cronig sy'n effeithio ar eu presenoldeb yr ysgol. Gall plentyn golli ysgol oherwydd y salwch ei hun neu oherwydd apwyntiadau ysbyty y mae'n rhaid iddo fynd iddynt mewn cysylltiad â'r salwch.
Caiff gwobrau am bresenoldeb, y mae llawer o'r plant hyn yn colli cyfle i'w hennill, eu cyflwyno gan ysgolion bob blwyddyn. Mae hyn yn annheg, ac mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y plant hyn.
Hoffwn gynnig bod Llywodraeth Cymru naill ai'n cyflwyno ystyriaethau ar gyfer y plant hyn, neu'n cynghori awdurdodau lleol ac ysgolion na ddylid rhoi gwobrau am bresenoldeb.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon