Deiseb a gwblhawyd Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig
Fel llawer o blant eraill yn y Deyrnas Unedig, mae fy mab yn dioddef o dyslecsia. Mae ysgrifennu a darllen Saesneg yn her ddyddiol felly dychmygwch orfod dysgu darllen ac ysgrifennu iaith arall na fyddwch byth yn ei defnyddio. Dyma beth mae fy mab yn gorfod ei wneud bob dydd gan ein bod yn byw yng Nghymru. Rwyf wedi ceisio ei dynnu o’r gwersi Cymraeg fel y gall gael gwersi Saesneg ychwanegol ond mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i’r ysgol ddysgu Cymraeg yng Nghymru. Mae’n her ddyddiol i blant â dyslecsia sy’n byw yng Nghymru. Dylai Cymraeg fod yn ddewisol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig, ac nid yn orfodol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon