Deiseb a gwblhawyd Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu safon BS4163:2014 yn llawn fel gofyniad yn hytrach nag argymhelliad, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion, athrawon a thechnegwyr.

 

Yn dilyn cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer athrawon Dylunio a Thechnoleg gan Ein Rhanbarth ar Waith, daeth yn amlwg bod y pwysau ariannol ar ysgolion yn arwain at sefyllfa lle y mae gofyn i athrawon Dylunio a Thechnoleg fwyfwy i addysgu dosbarthiadau mwy na’r 20 disgybl yr argymhellir yn BS4163:2014 "Iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio a thechnoleg mewn sefydliadau addysgol - Cod Ymarfer". Mae dosbarthiadau mwy o faint yn anochel yn arwain at risg uwch o ran disgyblion yn cael eu hanafu mewn amgylcheddau gweithdy.

Rhagor o fanylion

​Mae Cod Ymarfer BS4163:2014 yn nodi’n glir fel a ganlyn:

"9 Rheoli’r amgylchedd addysgu

 9.1

Gwybodaeth gefndir

Dylid ystyried yn ofalus nifer y dysgwyr mewn unrhyw un ardal weithio, i sicrhau y ceir gweithio diogel a goruchwyliaeth effeithiol.

Yng Nghymru a Lloegr, dylai dim mwy nag 20 o ddysgwyr fod gydag un athro cymwys, sydd wedi cymhwyso, mewn unrhyw un ardal weithio.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylai dim mwy nag 20 disgybl fod ar gyfer pob dosbarth mewn pynciau ymarferol."

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

338 llofnod

Dangos ar fap

5,000