Deiseb a gwblhawyd Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo

Y Gymraeg yw un o nodweddion amlycaf Cymru, ac mae ein hanes a'n diwylliant wedi'u cydblethu ag un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Mae mwy a mwy o enwau lleoedd a thai Cymraeg yn cael eu newid i enwau Saesneg. Mae hyn yn arwain at dranc diwylliant lleol ac un o'r elfennau sy'n gwneud Cymru'n unigryw. Mae'r hen enwau Cymraeg hyn yn aml yn ddisgrifiadol a'u gwreiddiau'n ddwfn yn hanes y lle.

Mae cynnal ein hunaniaeth a'n treftadaeth Cymraeg yn bwysig i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.

Rhagor o fanylion

Dylid diogelu hen enwau Cymraeg ar leoedd ac adeiladau o dan y gyfraith, a dylai fod yn orfodol i ddatblygiadau newydd gael enwau Cymraeg er mwyn diogelu ein diwylliant a'n hiaith unigryw. Byddai Cymry Cymraeg, dysgwyr a'r di-Gymraeg yn gwerthfawrogi hyn. Byddai hefyd yn helpu i feithrin ein prif nodwedd unigryw ar lwyfan y byd - rhywbeth y mae twristiaid yn caru ei weld.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

431 llofnod

Dangos ar fap

5,000