Deiseb a gwblhawyd Rhaid achub y coed a'r tir yng NJgerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Fel trigolion lleol, rydym yn credu bod y gwaith arfaethedig i atal llifogydd yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath ym Mhen-y-lan, Caerdydd yn ddinistriol, ac yn ddianghenraid felly.

Rydym wedi gweld y llanast yng Ngerddi Waterloo ac yn gwrthwynebu Cyfnod 3 o Gynllun Llifogydd y Rhath gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ehangu'r nant ym Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath gan arwain at gwymp dros 30 o goed mewn ardal lle na chafwyd unrhyw lifogydd yn y gorffennol.

Rydym am achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath er mwyn gwarchod cymeriad yr ardal, lleihau'r difrod ecolegol a gwarchod cynefinoedd ein bywyd gwyllt lleol.

Credwn nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yn briodol yr holl opsiynau sydd ar gael, a'u bod wedi camarwain y cyhoedd â ffigyrau anghywir yn ystod eu cyfnod ymgynghori, a chredwn ei bod, mewn gwirionedd, yn ddianghenraid i chwalu gerddi'r parc er mwyn ehangu sianel y nant gan waredu hen goed yn y broses.

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i'r gwaith yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath ac ystyried yr opsiynau ymarferol eraill sydd ar gael i liniaru'r perygl canfyddedig o lifogydd yn yr ardal hon.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

8,700 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor wneud ei waith craffu manwl ei hun ar y mater hwn, yn hytrach na chyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth fanwl gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru a bu’n monitro’r datblygiadau. Caeodd y ddeiseb ym mis Mehefin 2020 ar y sail bod yr ymgyrchwyr wedi llwyddo yn eu nod i gael y risg llifogydd wedi’i ailasesu ac oherwydd nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar hyn o bryd.