Deiseb a gwblhawyd Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys Sy'n Ehangu'n Gyflym Yng Nghymru

​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau strategol hirdymor i sicrhau bod y diwydiant cynnyrch dofednod yn gynaliadwy yn amgylcheddol drwy gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn effeithiol.

Mae gyrwyr amaethyddol pwerus sy'n cael eu hatgyfnerthu gan BREXIT yn cynyddu cynhyrchiad dwys o ran wyau a dofednod.  Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r canlyniadau amgylcheddol difrifol o ran bioamrywiaeth, pridd ac ansawdd dŵr ac afiechydon adar a dynol.  Mae'r cyhoedd yn codi llais ynghylch lles dofednod ond yn anwybodus, ar y cyfan, am effaith amgylcheddol unedau ffermio dofednod dwys.  Mae unedau wyau "maes" gyda chrynhoad o hyd at 2,500 o adar i bob hectar yn risg arbennig (adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 218: Astudiaeth Peilot Dofednod Powys a rhybuddion nitrogen INI 6/17).

Mae cymoedd serth, glawiad uchel sy'n achosi difrod maethol trwm a phoblogaethau o rywogaethau naturiol prin yn gwneud llawer o Gymru wledig yn hollol anaddas ar gyfer y ffrwydrad presennol o unedau ffermio dofednod dwys.  Ar ôl gostyngiad yn 1990, mae allyriadau amonia wedi bod yn cynyddu ers 2010 (adroddiad Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol 2017 ar gyfer DEFRA).  Mae llwythau critigol o ddyddodiadau amonia a nitrogen (trothwyon amcangyfrifedig o ran niwed annerbyniol i amrywiaeth planhigion) yn llawer uwch mewn rhai safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd a'r DU, Gwarchodfeydd Natur Lleol a Choetiroedd Hynafol.  Mae ffosffadau gormodol yn bygwth ein cyrsiau dŵr (Sefydliad Gwy a Wysg 2017).

Wrth fethu â gweithredu ar y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys yn esgeuluso'r ddyletswydd i "gynnal a gwella bioamrywiaeth" (Deddf yr Amgylchedd Adran 6).

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i reoli'r diwydiant:

  1. Darparu adnoddau priodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud ymchwil brys, rheoleiddio a monitro unedau dwys a rhoi gwell cymorth cynllunio i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl). 2.Cyhoeddi polisi cynllunio ac arweiniad i ACLl i wella penderfyniadau, sicrhau bod effeithiau cronnus yn cael eu hystyried a monitro a gorfodi amodau cynllunio. 3.Gwneud i'r diwydiant gyfrannu tuag at gostau rheoleiddio a monitro a'i ddwyn i gyfrif am dorri cyfrifoldeb amgylcheddol. 4.Cyhoeddi adroddiadau cyhoeddus tryloyw ar gynnydd.
Rhagor o fanylion

​O Bowys y daw ein tystiolaeth, ond mae ein deiseb yn berthnasol i Gymru gyfan.

Mae'r Cadeirydd, Diane McCrea, yn cadarnhau nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau (BBC 14/12/17).  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu effeithiau ceisiadau Unedau Dofednod ar safleoedd natur Ewropeaidd a'r DU ac yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer unedau o dros 40,000 o adar.  Mae canllawiau gwell Cyfoeth Naturiol Cymru (Ebrill 2017) yn cwmpasu effeithiau cronnol ond mae dulliau asesu yn methu â rhwystro datblygiad lle mae llwythi yn uwch na'r llwyth critigol presennol.

Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu disgrifiad priodol o wasgariad ac effeithiau ar ansawdd dŵr, ansawdd aer, Gwarchodfeydd Natur Lleol, Coetiroedd Hynafol, tirwedd, amwynderau preswyl a thraffig lleol.

Nid oes gan Awdurdodau Cynllunio Lleol y sgiliau a'r adnoddau ar gyfer y cyfrifoldebau hyn.  Nid yw Cyngor Sir Powys yn ystyried effaith gronnus ceisiadau, ynghyd â'r holl Unedau cyfagos, ar yr amgylchedd naturiol, tirwedd neu drigolion gwledig.  Dylai Atodlen 2 Asesiad Effaith Amgylcheddol sicrhau bod yr effeithiau cronnus yn cael eu hasesu ond mae hyn yn methu yn ymarferol.  Mae Cyngor Sir Powys yn amharod i ddyfarnu statws AEA oherwydd y gall Llywodraeth Cymru wyrdroi'r penderfyniad (gweler P/2016/0608 a P/2017/0007).

Mae gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ddata ar geisiadau cynllunio dofednod dwys ym Mhowys ers 2011.  Yn ystod y 30 mis diwethaf, bu 99 o GEISIADAU yn cynnwys dros  DAIR MILIWN O ADAR, gyda 72 ohonynt ar gyfer wyau maes.  O'r 99, dim ond 10 sydd â statws AEA: Mae 65 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a DIM OND UN A WRTHODWYD.

Mae gennym dystiolaeth o ddatblygiadau a gymeradwywyd heb fapio gwasgariad cyfuchlinellau neu wasgariad awyr agored, yn agos at warchodfeydd natur (71m), coetiroedd hynafol bregus (cyfagos) cyrisau dŵr (10m) a thrigolion (50m). Mae trigolion yn dioddef risgiau iechyd o bryfed, amonia yn yr awyr, llwch dofednod, gronynnau a gynhyrchir gan draffig ac arogleuon tramgwyddus. Anwybyddir gwrthwynebiadau rhanddeiliaid amgylcheddol a chyhoeddus, mae rhywogaethau planhigion prin yn marw, mae risgiau o glefydau yn cynyddu ac mae cyrsiau dŵr yn methu safonau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

DIGON YW DIGON: Gellir gweld cyfres unigryw o DDATA UNEDAU DOFEDNOD DWYS POWYS gan gynnwys ceisiadau, map rhyngweithiol, map o fannau trafferthus ac arddangosfa animeiddiedig o dwf cronolegol yr Unedau Dofednod Dwys yn http://www.brecon-and-radnor-cprw.wales/?page\_id=13.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

4,570 llofnod

Dangos ar fap

5,000