Deiseb a gwblhawyd Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru

​Fel mater o frys, gofynnwn i Weinidog y Cabinet ymchwilio i ymddygiad Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses ymgynghori a’r argymhelliad i wneud newidiadau i is-ddeddfau pysgota gwialen a llinell yng Nghyfarfod y Bwrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Ionawr 2018, cyn derbyn unrhyw gynigion i newid is-ddeddfau pysgota presennol.

  1. Methodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru â dilyn y drefn ddemocrataidd drwy wrthod caniatáu i aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru bleidleisio ar gynigion newydd o ran Is-ddeddfau pysgota newydd gan bysgotwyr gwialen a llinell. Mabwysiadodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru safiad didrugaredd, ac anwybyddodd bryderon y rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori ac aelodau Bwrdd llawn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfarfod.

  2. Argymhellodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru newidiadau i’r Is-ddeddfau i Gynulliad Cymru ac yntau wedi ardystio yng nghyfarfod y Bwrdd na fyddai’r cynigion yn effeithio llawer, neu ddim o gwbl, ar leihau stociau eogiaid a brithyllod môr o fewn dalgylchoedd afonydd mewndirol ledled Cymru.

  3. Gyda Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydnabod bod "materion eraill" sy’n cyfrannu at leihau’r stociau eog a brithyllod môr, methasant â blaenoriaethu a gweithredu ar y "materion eraill" hyn, ac maent wedi gwneud hynny dros nifer o ddegawdau, heb gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn torri gofynion Adran 6 (6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn methu â chyflawni ei hamcan o leihau’r risg i lefelau stoc eog a brithyllod môr yn afonydd Cymru, yn enwedig o ran:

(a) Atal, monitro, gorfodi ac erlyn yn effeithiol o ran llygredd.

(b) Monitro ysglyfaethu bywyd gwyllt ac argymell rheolaethau cymesur.

Rhagor o fanylion

​4. Derbyniodd Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn agored yng nghyfarfod y Bwrdd eu bod wedi methu â chyfathrebu’n effeithiol a mabwysiadu polisi o weithredu cytundebau gyda rhanddeiliaid, y disgwylir iddynt fonitro ac adrodd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru a gorfodi’n wirfoddol y newidiadau arfaethedig i is-ddeddfau, y mae llawer yn anghytuno â nhw.

5. Methwyd â mabwysiadu strategaeth, a gydnabyddir fel arfer gorau mewn gwledydd eraill, i fonitro ac asesu risg pob afon yn gywir, nac argymell dim sancsiynau fesul afon unigol, gyda rhanddeiliaid perthnasol.

6. Mae Bwrdd a Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â bodloni gofynion gofal a diwydrwydd dyladwy yn ystod y broses ymgynghori, a arweiniodd at fethiant i gydnabod pa mor bwysig yw sut y bydd eu his-ddeddfau newydd yn effeithio’n andwyol ar:

(a) Gyfleoedd pysgota hamdden, budd economaidd i gymunedau gwledig ac arfordirol, a hefyd maent yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

(b) Ewyllys da rhanddeiliaid sydd wedi monitro a gwarchod yr amgylchedd naturiol yn effeithiol heb Cyfoeth Naturiol Cymru ers dros ddegawd, a pheryglwyd yr ewyllys da barhaus honno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,070 llofnod

Dangos ar fap

5,000