Deiseb a gwblhawyd Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’i chynlluniau i adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ar hyd y Llwybr Du arfaethedig, ac yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl ar gynlluniau’r M4 yn ddiweddarach eleni, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi’r prosiect.

Mae angen di-os am draffordd newydd o amgylch Casnewydd, gyda’r tagfeydd o gwmpas Twneli Brynglas yn cael effaith negyddol ar fusnesau ac ar bobl o bob rhan o dde Cymru.

Cyhoeddwyd y bwriad cyntaf i gael ffordd liniaru ym 1991, sef bron i 30 mlynedd yn ôl. Er nad yw’r methiant i weithredu am dros dri degawd yn unig ar fai, credwn nad yw hyn wedi bod o gymorth i les economaidd y genhedlaeth bresennol, ac mae wedi cyfrannu at:

•Fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dros 3 y cant yn is ar gyfartaledd na chyfradd cyflogaeth y DU ers canol y 1990au.

• Fod y Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y pen yn gyson yn is na 75 y cant y  cyfartaledd yn y DU ers diwedd y 1990au, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Gwerth Ychwanegol Gros Caerdydd y pen yw’r isaf o blith pedair prifddinas y DU.

Rhagor o fanylion

Canfu dadansoddiad Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2016 y byddai ffordd M4 newydd yn ardal Casnewydd yn gwella cysylltedd yn Ne Cymru ac â gweddill y DU, a fydd yn:

  • Lleihau amseroedd teithio, gan ddod â manteision penodol i gwmnïau logisteg a ‘gweithrediadau ond mewn pryd’, sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a chostau cysylltiedig.

 

  • Arbed costau cludiant a amcangyfrifir sy’n £34m y flwyddyn i fusnesau de Cymru.

 

  • Cynyddu mynediad at gyflogaeth i drigolion ac yn ehangu maint y gweithlu hygyrch i fusnesau.

 

  • Cynyddu Gwerth Ychwanegol Crynswth de Cymru o £39 miliwn y flwyddyn drwy’r cynnydd o ran cynhyrchiant.

 

  • Creu mynediad at safleoedd cyflogaeth newydd yn ardal Casnewydd, gyda photensial ar gyfer 15,000 o swyddi, a gwella mynediad at safleoedd sy’n gyfagos i’r M4 presennol, a gaiff ei rwystro yn sgîl tagfeydd traffig rheolaidd.

 

  • Gwella’r canfyddiad o Gymru ar gyfer ymwelwyr, ac fel lleoliad ar gyfer buddsoddi.

 

Newidiwch y sefyllfa fel y bu am dros 30 mlynedd, a chefnogwch gynigion y llywodraeth o ran y Llwybr Du ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4, fel y gallwn wella lles economaidd cenedlaethau’r dyfodol ar draws De Cymru.

Tystiolaeth

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43059755

https://statscymru.llyw.cymru/v/C8Ns

https://statscymru.llyw.cymru/v/C8Nt

https://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/bulletins/regionalgrossvalueaddedbalanceduk/1998to2016#wales-was-the-fastest-growing-country-in-the-uk-in-2016

https://beta.llyw.cymru/coridor-yr-m4-o-amgylch-casnewydd-adroddiad-diwygiedig-yr-asesiad-or-effaith-economaidd-ehangach

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,482 llofnod

Dangos ar fap

5,000