Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Cofrestr Statudol ar gyfer Lobïwyr yng Nghymru.

Mae'r ddeiseb hon yn dilyn camau a gymerwyd yn yr Alban ac Iwerddon tuag at sicrhau bod lobïo gwleidyddol yn fwy agored.

Mae lobïo yn weithgaredd dilys a gwerthfawr. Mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach. Gall y geiriau lobïo a lobïwr gael eu dehongli'n negyddol, gan awgrymu fod bargeinion yn cael eu taro y tu ôl i ddrysau caeedig. Y gwir amdani yw po fwyaf o leisiau sy'n ceisio llywio meddylfryd y Llywodraeth a'r Cynulliad yng Nghymru, y mwyaf y bydd gwleidyddion yn cael gwybod beth yw barn pobl wrth iddynt ddeddfu, datblygu polisïau newydd a chyflawni gwaith craffu. Am y rheswm hwnnw, ac ar sail yr egwyddor o fod yn agored ac yn hygyrch, sydd wrth wraidd y Cynulliad, dylid mynd ati'n weithredol i annog lobïo. Mae'n gadarnhaol pa mor agored, hygyrch a pharod i ymgysylltu yw'r Cynulliad a'r Llywodraeth eisoes. Ni ddylid cymryd unrhyw gamau a fyddai'n newid hynny neu'n achosi i bobl beidio â chysylltu â gwleidyddion ynglŷn ag unrhyw fater.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

55 llofnod

Dangos ar fap

5,000