Deiseb a gwblhawyd Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

​Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd aer sy’n anghyfreithlon ac sy’n niweidiol i’w hiechyd. Mae plant ymysg y rheiny sydd fwyaf diamddiffyn rhag llygredd aer. Mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu, a gall aer llygredig arafu twf eu hysgyfaint, a golygu eu bod yn fwy tebygol o gael asthma, a phroblemau iechyd eraill, yn nes ymlaen yn eu bywyd.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BLF i awdurdodau lleol yn 2017, gwelwyd nad oedd 68 y cant o ymatebwyr (15 o 22) yn monitro llygredd aer o fewn 10 metr o unrhyw un o’u hysgolion.

Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod pob Awdurdod Lleol yn monitro ansawdd yr aer y mae plant yn ei anadlu pan fyddant yn yr ysgol, fel bod gan y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau y wybodaeth angenrheidiol i ymateb i lygredd aer.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

159 llofnod

Dangos ar fap

5,000