Deiseb a gwblhawyd Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod nawdd ar gael er mwyn darparu aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol i bob plentyn yng Nghymru sydd wedi colli coes / braich.
Rydym yn croesawu’r newyddion diweddar fod Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau bydd £1.5 miliwn ychwanegol ar gael i ddatblygu aelodau prosthetig arbenigol i blant a phobl ifanc yn Lloegr.
Rydym yn gofyn am yr un lefel o gefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru, fel bod aelod prosthetig arbenigol ar gael drwy’r GIG i unrhyw blentyn neu berson ifanc buasai’n elwa o gael un.
Rhagor o fanylion
Ganwyd fy merch gyda chyflwr prin o’r enw Fibular Hemimelia, sy’n golygu bod yna esgyrn ar goll yn ei choesau. Mae ganddi hi gyflwr prin iawn, sy’n effeithio ar ei dwy goes. Ychydig o ddiwrnodau ar ôl ei phen-blwydd cyntaf, aeth hi i Ysbyty Alder Hey i gael torri ei choesau. Ychydig fisoedd wedyn aeth hi at y Ganolfan Aelodau yn Wrecsam Maelor i gael ei phâr cyntaf o goesau prosthetig.
Rydym ni wedi cael gofal heb ei ail gan staff y Ganolfan, ond mae ei choesau yn drwm ac yn anhyblyg. Mae hi’n medru cerdded, ond yn araf. Mae hi’n medru dringo, gyda thrafferth. Nid ydi hi erioed wedi profi’r teimlad o redeg nerth ei thraed, na chadw cyflymder gyda’i chefndryd wrth chwarae yn y parc. Mae hi wedi goresgyn pob anhawster hyd yma, ond bydd hi’n wynebu rhagor wrth iddi dyfu.
Fel rhiant, fy nymuniad yw iddi gael bod y fersiwn gorau ohoni hi ei hun; iddi gael chwarae heb frwydro i gadw cyflymder â’i ffrindiau, ac iddi fedru cymryd rhan ymhob peth mae hi’n dymuno gwneud.
Yn fuan bydd hi’n ddigon hen i gael aelodau prosthetig arbenigol. Pe bai nhw ar gael iddi drwy’r GIG buasai’n gwneud byd o wahaniaeth i’w bywyd beunyddiol.
Dwi’n deall bod plant eraill yng Nghymru wedi colli aelodau, ac eu bod nhw’n wynebu heriau tebyg. Rydw i’n credu bod ein plant ni yr un mor haeddiannol o gymorth arbenigol â phlant Lloegr. Nifer bychan o blant sydd wedi colli aelod yng Nghymru, does dim angen yr un lefelau o nawdd; eto mae eu hanghenion yr un fath. Nid ydym yn gofyn am filiynau, ond am gydraddoldeb.
Mi fydd fy merch yn treulio ei hoes gyfan yn gwisgo aelodau prosthetig. Fe all cefnogaeth arbenigol wneud cymaint o les iddi. Rhowch iddi, ac i blant eraill fel hi, yr un gefnogaeth a roddir i blant Lloegr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon