Deiseb a gwblhawyd Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

​Rhwystro’r gormodedd o ddal a chadw Eogiaid drwy weithredu cyfyngiadau ar fagiau dal a chadw ar bob afon yng Nghymru am y 4 blynedd nesaf ar sail data penodol i dalgylch mewn ymgynghoriad agos â chlybiau pysgota.

Gweithredu rhaglen stocio gynhwysfawr o bysgod brodorol ar bob afon.

Tynhau a gweithredu deddfwriaeth bresennol er mwyn dileu’r bygythiad o lygredd ffermio a llygredd diwydiant.

Rhwystro pob math o bysgota rhwydi masnachol ar raddfa fawr a gweithrediadau lllongau ffactri o amgylch arfordir Cymru am gyfnod o 10 mlynedd.

Blaenoriaethu dyrannu adnoddau i gynorthwyo i reoli materion sy’n benodol i dalgylchoedd sy’n gysylltiedig â chyfraddau ysglyfaethu naturiol gormodol a rhwystrau rhag ymfudiad pysgod.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,710 llofnod

Dangos ar fap

5,000