Deiseb a gwblhawyd Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y corff cyfrifol a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn peidio â phrydlesu tir cyhoeddus i weithgareddau saethu masnachol. Prif swyddogaeth gyfansoddiadol Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod yn stiward amgylcheddol dros y tir y mae’n ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Ond mae prydlesu’r tir hwn ar gyfer gweithgareddau saethu yn effeithio’n negyddol ar gadwraeth, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid. Herfyd, mae gweithgareddau saethu yn llygru tir gyda phelenni plwm gwenwynig sy’n gyfrifol am wenwyno a lladd llawer o anifeiliaid. Mae arfer Cyfoeth Naturiol Cymru o brydlesu tir ar gyfer saethu yn hwyluso gweithgarwch sy’n wrthun gan lawer o bobl Cymru: lladd anifeiliaid er mwyn ‘difyrrwch’.  Mae’r prydlesau hefyd yn golygu fod mynediad y cyhoedd i dir sy’n eiddo i bobl Cymru yn cael ei gyfyngu. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

12,706 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i beidio â chynnig unrhyw estyniad i’r prydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar dir y mae’n ei reoli unwaith y byddant yn dod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth Llywodraeth Cymru.