Deiseb a gwblhawyd Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried ein cynnig i roi 'Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd' yn enw swyddogol ar adran newydd o ffordd yr A483—adran hanesyddol yr oedd mawr ei hangen.

Dylid gwneud hyn i gydnabod y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn y mae un o 'Henebion Naturiol' mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, sef Derwen Brimmon, wedi'i greu i'r Drenewydd, i'r rhanbarth ac i Gymru.

Yn gyntaf, enillodd wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn cyn ennill gwobr 'UK Tree of the Year'—cystadleuaeth a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol. Yna, cafodd ail yng nghystadleuaeth fawreddog 'European Tree of the Year' (2017), mewn seremoni yn Senedd yr UE ym Mrwsel a gafodd lawer o sylw. Teimlwn y dylai'r dderwen hynafol hon, sydd o bwysigrwydd diwylliannol mawr, ac sydd bellach yn adnabyddus ledled Cymru, y DU ac yn wir y byd, gael ei hanrhydeddu yn y modd hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

402 llofnod

Dangos ar fap

5,000