Deiseb a gwblhawyd Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y mater o draffig cynyddol ar yr A470 o gwmpas cyffiniau Trago Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa, a rhoi system draffig newydd ar waith i liniaru'r swm o draffig a welir yn ystod yr oriau brig, a all wedyn ddatrys y problemau parhaus sy'n wynebu trigolion.

Agorodd Trago Mills ei ddrysau oddeutu pythefnos yn ôl i'r cyhoedd. Byth ers i Trago Mills agor, cafwyd problemau cyson o ran traffig cynyddol yng nghyffiniau Trago Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa. Yn ogystal ag yn ystod y penwythnosau, mae hefyd yn digwydd yng nghanol yr wythnos. 

Pan ddaethpwyd â'r mater hwn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn wreiddiol beth amser yn ôl cyn i Trago Mills agor, dywedodd yn bersonol mewn llythyr y byddai'r A470 yn gallu cymryd pwysau'r traffig i mewn ac allan o'r ardal, ond yn anffodus nid dyma'r sefyllfa. Nid yw'r traffig sy'n cronni ar brif gylchfan yr A470 yn gallu atal y llwyth traffig sy'n mynd yn uniongyrchol i Barc Manwerthu Cyfarthfa a Trago Mills. Mae hyn yn anghyfleus i'r trigolion hynny sydd eisoes yn byw yn agos at yr ardal, ac mae hefyd yn effeithio ar fusnesau lleol yn yr ardal ac yn effeithio ar yr economi oherwydd bod ymwelwyr yn osgoi'r ardal. 

 A wnewch chi edrych ar y mater dan sylw eto gan fod angen gweithredu'n uniongyrchol i ddatrys y broblem hon.  

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

141 llofnod

Dangos ar fap

5,000