Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd

Annwyl Weinidog(ion) y Llywodraeth,

Rwyf am dynnu eich sylw at y newyddion diweddar sy’n awgrymu y bydd Castell-nedd yn cael ei dynnu oddi ar y brif reilffordd o Abertawe i Paddington Llundain.

Nid wyf o blaid y penderfyniad hwn oherwydd credaf y byddai cymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd yn cael effaith andwyol ar economi ein tref, ac ar yr ymgais i’w hadfywio. Mae’r orsaf eisoes wedi mynd â’i phen i waered ac mae bellach yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai tynnu Castell-nedd oddi ar y brif linell yn gwneud dim ond gwaethygu’r problemau hyn.

Byddai hefyd yn cael effaith negyddol ar y rhai sy’n cymudo ar y brif linell i fynd i’r gwaith, a fyddai’n golygu y byddai’n rhaid iddynt ddal trên ychwanegol i gysylltu ag Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf.

Mae ffigurau diweddar a ddatgelwyd yn sgîl gwaith ymchwil gan Jamie Evans, Cynghorydd Plaid Cymru dros Dde Castell-nedd wedi canfod:

Roedd tua 830,000 o deithwyr yn defnyddio gorsaf drenau Castell-nedd bob blwyddyn, gan ei gwneud yr ail orsaf brysuraf ar ôl Abertawe, yn sir hanesyddol Gorllewin Morgannwg, a’r brysuraf o blith y pum gorsaf yng Nghastell-nedd Port Talbot. Byddai’r cynlluniau i gael gwared â Chastell-nedd o’r brif linell yn golygu y byddai’n rhaid i gymudwyr sy’n teithio i Gaerdydd o Gastell-nedd ddal trên i Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf, sy’n golygu cynnydd o ran y gost a’r amser a gymerir iddynt fynd nôl a blaen i’r gwaith.

Ni fyddai pobl o Gastell-nedd, Pontardawe, Sgiwen, Glyn-nedd na Chwm Dulais yn cael unrhyw fudd o gwbl o’r "10 munud" o amser a arbedir ar deithiau rhwng Abertawe a Chaerdydd.

Gofynnaf yn garedig i chi ail-ystyried y penderfyniad hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,472 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni'r ymrwymiad a gafwyd na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig i leihau gwasanaethau i orsaf Castell-nedd nac o orsaf Castell-nedd.