Deiseb a gwblhawyd Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

​Mae cangen Castell-nedd Port Talbot o UNSAIN yn galw ar i Lywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad i dorri cyllid cymorth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr (TES).

Yn y bôn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi tynnu cyllid ar gyfer y grwpiau hyn yn ôl o dan y grant gwella addysg. Mae ymchwil yn dangos mai plant Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru, a diben y grant gwella addysg yw cefnogi eu dysgu a gwella cyrhaeddiad.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae canran o’r disgyblion yn ein hysgolion yn deithwyr ac yn grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n dibynnu ar yr arian hwn; mae Margam a Llansawel yn enghreifftiau o hyn. Mae gan y cyngor dystiolaeth bod gweithwyr cymorth yn darparu gwasanaeth gwych o ran ymgysylltu â’r dysgwyr ‘anodd eu cyrraedd’ hyn. Rydym am i bob person ifanc allu cyrraedd ei botensial ac mae gweithwyr cymorth yn gallu hyrwyddo anghenion pob dysgwr, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed neu sydd o dan anfantais. Maent yn meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, ysgolion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd y gostyngiad yn eu cyllid yn niweidiol ac mae torri swyddi eisoes yn cael ei drafod â’r undebau llafur. Bydd angen talu unrhyw gostau diswyddo o gyllideb sydd eisoes dan bwysau.

Rydym yn annog i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag UNSAIN ac awdurdodau lleol. Rhaid i Lywodraeth Cymru gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu i’r rhai sydd mewn angen.

Rhagor o fanylion

​Mae’r cyllid a gyhoeddwyd yn y setliad dros dro i gefnogi’r dysgwyr hyn sy’n agored i niwed yn ei gwneud hi’n berffaith amlwg nad oes dim trosglwyddiadau yn 2018/19 mewn cysylltiad ag addysg.  Honnwyd iddo gael ei dorri o’r Grant Gwella Addysg a’i fod wedi cyfrannu at y £170 miliwn ychwanegol a aeth i’r setliad ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol, ond nid yw hynny’n ddim amgen testun trafod.  Yn syml, effaith hyn oedd lleihau’r toriad cyffredinol i gyllid awdurdodau lleol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gweld toriad yn y Grant Cynnal Refeniw ond mae wedi honni bod y ddau doriad hyn yn golygu cynnydd yn y cyllid.  Mae wedi tynnu’r grant heb wneud yn iawn am hynny o dan y Grant Cynnal Refeniw.  Mae £5 miliwn ar gael i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd ar gyfer 2018/19, ond nid yw’n sôn y bydd hynny’n parhau i’r cynghorau hynny ar ôl y flwyddyn ariannol honno.  Mae’r torri cyllid hwn a’r diffyg gwybodaeth am ddarpariaeth yn y dyfodol yn golygu bod cyfarwyddwyr addysg mewn sefyllfa anodd.  Ni ellir cyflawni cyfle cyfartal i’r disgyblion hyn heb y cymorth wedi’i dargedu yr oedd y grant gwella addysg yn ei ariannu gynt.  Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru am ddyrannu cyllid i ysgolion yn uniongyrchol er mwyn eu helpu gyda’r pwysau cyllidol cyffredinol sydd arnynt, ond gellid bod wedi dyrannu rhywfaint o’r cyllid hwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal cymorth arbenigol yn y flwyddyn i ddod.  Os na fydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chyllid grant penodol, yna bydd effaith anghymesur ar gydraddoldeb i Sipsiwn, Teithwyr a lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

334 llofnod

Dangos ar fap

5,000