Deiseb a gwblhawyd Gwahardd gwellt plastig(wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwahardd y defnydd  o wellt plastig sy'n cael eu defnyddio wrth yfed llaeth yn ein hysgolion. Fel ysgol fawr derbyniwn tua 285 o boteli llaeth (ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) yn ddyddiol gan gynnwys yr un nifer o wellt. Yn sgil yr ymgyrch byd-eang i leihau gwastraff plastig teimlwn fod gwellt plastig yn cael effaith andwyol ar ein hamgylchedd yn enwedig wrth ystyried eu bod yn cael eu defnyddio unwaith ac yna eu taflu. Pe bawn yn parhau gyda'r arfer yma byddai hyn yn arwain at y posibilrwydd fe fydd mwy o blastig yn ein moroedd na physgod erbyn 2050. Y ffaith amdani yw fod yr holl wellt yma yn cyfrannu'n sylweddol at lygru ein moroedd ac mae bywyd gwyllt mewn perygl.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

603 llofnod

Dangos ar fap

5,000