Y map deisebau
Nodwch y bydd cyfanswm nifer y llofnodion ar gyfer etholaethau, rhanbarthau etholiadol a gwledydd unigol yn llai na chyfanswm nifer y llofnodion a nodwyd ar gyfer y ddeiseb am y rhesymau a ganlyn:
- Cafodd y ddeiseb ei llofnodi gan ddefnyddio cod post nad yw wedi’i gyhoeddi eto;
- Cafodd y ddeiseb ei llofnodi o’r tu allan i Gymru;
- Cafodd llofnodion papur ychwanegol eu hychwanegu at y ddeiseb.
Er mwyn cyfrifo dosbarthiad y llofnodion a dangos y ffiniau ar y map, defnyddiwyd y ffynonellau data a ganlyn:
- Data ynghylch ffiniau gan yr Arolwg Ordnans a Phorth Daearyddiaeth Agored y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
- Data ynghylch codau post o Gyfeiriadur Codau Post y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONSPD).
- Daw’r data ynghylch amcangyfrifon poblogaeth (canol 2021) o Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Hawlfraint
Ffynhonnell: y Swyddfa Ystadegau Gwladol o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0.
Yn cynnwys data yr Arolwg Ordnans ⓗ Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2022