Deiseb a gwblhawyd Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y cytundeb masnachfraint ar gyfer gweithredwr newydd Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i Gas-gwent.  Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd Cross Country yn rhoi'r gorau i redeg trenau o Gas-gwent.  Mae'r bwriad i redeg dim ond un trên yr awr i dref o faint a phwysigrwydd Cas-gwent - pen pellaf y rheilffordd yn Nyffryn Gwy - yn wael dros ben, o'i gymharu â'r gwasanaeth yn nhrefi eraill ein sir a rheilffyrdd y cymoedd. Dylid darparu dau drên bob awr o leiaf. Rydym yn cydnabod bod angen annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'u ceir er mwyn helpu'r amgylchedd. Mae'r gwaith o wella gwasanaethau trên yn gam tuag at hyn.

Rhagor o fanylion

​Anfonwyd sylwadau'n tynnu sylw at hyn cyn dyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau. Ymddengys bod y sylwadau hyn wedi'u diystyru.  

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

260 llofnod

Dangos ar fap

5,000