Deiseb a gwblhawyd Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

​Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cymru i roi diwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru, drwy newid y cynllun i o leiaf adlewyrchu'r darpariaethau ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr. 

Mae sawl categori o ddioddefwyr yng Nghymru sydd o bosibl ar eu colled o £20,000 neu fwy o dan y cynllun. Cafodd miloedd o bobl eu heintio o ganlyniad i dderbyn gwaed wedi'i heintio neu gynhyrchion gwaed wedi'u heintio a roddwyd iddynt gan y GIG tan fis Medi 1991 o leiaf. Mae dros ddwy fil o bobl eisoes wedi marw. 

Yn dilyn datganoli pwerau, y Cynulliad sydd â'r cyfrifoldeb dros gefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd y rhai sydd wedi'u heintio yng Nghymru. Caiff y cynlluniau cefnogaeth eu gweithredu gan wasanaeth Cefnogi Gwaed wedi'i Heintio yng Nghymru (WIBSS) a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Velindre a Chyd-bartneriaeth Gwasanaethau'r GIG (NWSSP) sydd, yn y pen draw, yn atebol i Gynulliad Cymru. 

I'r rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr, cynhelir y cynllun cyfatebol gan EIBSS, sydd yn y pen draw yn atebol i'r senedd yn Llundain. Er i'r dioddefwyr oll gael eu heintio gan y GIG cyn iddo gael ei ddatganoli, mae gan EIBSS ac WIBSS ddarpariaethau tra gwahanol o ran cymorth ariannol. Y ffactor sy'n pennu pa gynllun y byddwch chi'n ei gael yw lle cafodd y dioddefwr ei heintio yn hytrach na lle mae'n byw. Mae dau gynllun na all y rheini sydd o dan WIBSS gael mynediad atynt. Gelwir y rhain yn 'Fecanwaith Categori Arbennig' a 'cynllun cyllid ychwanegol dewisol'. Effaith net hyn oll yw bod sawl categori o ddioddefwyr heintiau yng Nghymru o bosibl ar eu colled o £20,000 o dan y cynllun, neu'n fwy os oes ganddynt blant, waeth ble y maent yn byw. Bydd dau berson sy'n byw yng Nghaerdydd er enghraifft, sydd wedi'u heintio gan y GIG, â'r un effaith, o bosibl yn cael gwahaniaeth o £20,000 mewn cymorth ariannol dim ond gan fod un o'r ddau 'yn fwy lwcus' o gael ei heintio yn Lloegr.

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ymyrryd i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn nawr

Rhagor o fanylion

Pwy ydym ni: rydym yn grŵp cefnogi cyfoedion annibynnol sy'n cynnwys dioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio ledled y DU https://www.facebook.com/groups/ContaminatedWholeBloodUK/

 Lle gellir canfod manylion cynlluniau cyfatebol ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr a'r rheini a gaiff eu heintio yng Nghymru: I bobl sydd wedi'u heintio yng Nghymru, https://wibss.wales.nhs.uk/ I bobl sydd wedi'u heintio yn Lloegr, dyma'r cynllun cyfatebol https://www.nhsbsa.nhs.uk/england-infected-blood-support-scheme

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn:

Ar sawl achlysur, mae gwahanol sefydliadau wedi ceisio codi'r mater yn yr ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan Syr Brian Langstaff a thrwy wneud y wasg yn ymwybodol o'r erthygl hon sy'n canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cynlluniau Cymru a'r Alban https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43898899

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

159 llofnod

Dangos ar fap

5,000