Deiseb a gwblhawyd Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried creu ffynhonnau dŵr a'u rhoi yng nghanol dinasoedd a threfi. Prif ddiben y cam gweithredu hwn fyddai roi diwedd ar wastraff plastig. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y poteli plastig untro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac oherwydd y broses ailgylchu araf, mae'n llygru'r amgylchedd, gan niweidio bywyd y môr yn arbennig.

Mae llawer o bobl yn ceisio byw yn iach, gan gynnwys yfed o leiaf 2 litr o ddŵr bob dydd. Felly, mae poteli dŵr amldro wedi dod yn boblogaidd a defnyddiol iawn i helpu pobl i yfed digon o ddŵr drwy'r dydd. Byddai rhoi ffynnon ddŵr yng nghanol dinasoedd neu mewn rhannau eraill o ddinasoedd a threfi (canolfannau siopa, canolfannau chwaraeon, colegau, canolfannau diwylliannol ac ati) yn helpu i sicrhau bod dŵr yfed ar gael trwy'r dydd. Byddai'r ffynhonnau dŵr hyn hefyd yn cyflenwi dŵr yfed i bobl ddigartref.

I gefnogi'r economi leol yng Nghymru, gellid defnyddio cwmnïau dŵr mwynol Cymru ar gyfer cyflenwi'r ffynhonnau dŵr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

149 llofnod

Dangos ar fap

5,000