Deiseb a gwblhawyd Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried diwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion lle y mae'n ymwneud â derbyn plant y tu allan i'r grŵp oedran arferol, mewn perthynas â phlant a anwyd yn ystod yr haf (1 Ebrill – 31 Awst).

Oherwydd amseriad cyfnodau dechrau mewn ysgolion, mae plant a anwyd yn ystod yr haf o dan anfantais sylweddol o gymharu â'u cyfoedion. Efallai y byddant yn dioddef effeithiau emosiynol ac addysgol niweidiol wrth iddynt ddechrau eu haddysg ffurfiol lawer yn iau. Gyda hynny mewn golwg, efallai y bydd rhieni yn dewis gohirio pryd y bydd plant a anwyd yn ystod yr haf yn dechrau yn yr ysgol hyd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol gorfodol, yn unol â'u hawliau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf yn canfod bod eu plant wedyn yn cael eu rhoi mewn dosbarth ym Mlwyddyn 1 yn syth, gan golli'r flwyddyn Derbyn hanfodol, sef y flwyddyn bwysicaf mewn addysg yn ôl gwaith ymchwil.

Mae'n well gan y rhan fwyaf o rieni i'w plant fynd i'r flwyddyn Derbyn pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn hytrach na Blwyddyn 1. O dan y Cod Derbyn i Ysgolion, mae hyn yn bosibl mewn theori. Mewn egwyddor, mae'r Cod yn rhoi'r gallu i rieni ofyn i'w plant a anwyd yn ystod yr haf gael eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran arferol. Yn ymarferol, mae geiriad y Cod wedi achosi llawer o broblemau: mae astudiaethau achos wedi dangos nad yw Awdurdodau Addysg Lleol yn gweithredu'r ddarpariaeth yn gyson ac mai prin y caiff ceisiadau eu derbyn.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y diwygiadau a ganlyn:

(1) Fel yr opsiwn cyntaf, dylid cymeradwyo ceisiadau i ohirio dyddiad dechrau plant sydd â phen-blwyddi yn ystod misoedd yr haf yn awtomatig (fel sy'n digwydd yn yr Alban);

(2) Fel arall, dylid diwygio geiriad y ddarpariaeth bresennol i gryfhau hawliau rhieni i ddewis pryd y bydd eu plant yn dechrau mewn dosbarth Derbyn, gan bwysleisio hefyd y dylai Awdurdodau Addysg Lleol ystyried ceisiadau yn llawn a rhoi arweiniad Llywodraethol i'r perwyl hwn;

(3) Yn y naill achos neu'r llall, dylid sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran yn aros gyda'u grŵp newydd drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol.

Rhagor o fanylion

​Nod astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan yr Adran Addysg oedd dangos nad yw gohirio pryd y bydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd yn cael fawr ddim effaith ar ei gyrhaeddiad. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ofalus wrth drafod yr astudiaeth hon. Roedd yr astudiaeth yn gyfyngedig iawn, gan fesur cyrhaeddiad academaidd YN UNIG, a hynny gan eithrio pob plentyn ag anghenion arbennig neu anghenion ychwanegol. Mae'n annhebygol iawn mai cyrhaeddiad academaidd fydd y prif reswm y mae rhieni'n dewis gohirio mynediad eu plentyn at addysg gynradd.

Nid gallu academaidd plentyn yw'r ystyriaeth bennaf wrth benderfynu ynghylch ei barodrwydd ar gyfer yr ysgol, ond ei aeddfedrwydd emosiynol a chymdeithasol. Y sgiliau hyn a fydd yn helpu plentyn i wneud ffrindiau, i ddelio â'i emosiynau, i ddilyn cyfarwyddiadau ac i ganolbwyntio a meithrin iechyd meddwl da. Ni ellir mesur a oes gan blentyn y sgiliau hyn drwy brawf ffoneg.

Ni fydd cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn diwallu anghenion pob plentyn yng Nghymru; ni all wneud hynny. Ni ddylai hynny fod yn rheswm dros wrthod ceisiadau o'r fath. Mae angen polisi derbyn mwy hyblyg er mwyn ystyried anghenion unigol plant a'r hyn sydd o fudd iddynt. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn pwysleisio y bydd addysg plentyn yn cael ei chyfeirio at ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd corfforol y plentyn cymaint â phosibl (Erthygl 29(1)(a)). Drwy roi plant a anwyd yn ystod yr haf o dan anfantais, nid yw'r Cod Derbyn i Ysgolion presennol yn cyflawni hynny.

Mae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes wedi achub y blaen ar Gymru yn hyn o beth. Mae Nick Gibb, y Gweinidog Gwladol dros Safonau Ysgolion, wedi ymrwymo i ddiwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion i adlewyrchu hawl rhieni i ddewis. Yn yr Alban, caiff ceisiadau gan rieni i blant o oedran cyfatebol ohirio dechrau yn yr ysgol eu derbyn yn awtomatig, ac ni fydd y plant yn colli unrhyw flynyddoedd o addysg  ysgol wrth wneud hynny.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

241 llofnod

Dangos ar fap

5,000