Deiseb a gwblhawyd Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i droi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru, a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru.

Nid yw'r terfynau cyfreithiol presennol ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru yn diogelu iechyd. Mae terfynau'r UE, a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru, yr un fath â'r terfynau canllaw uchaf a argymhellir gan y WHO ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2), ond maent yn llai llym na throthwy'r WHO ar gyfer llygryddion eraill sy'n niweidiol i iechyd megis deunydd gronynnol mân (PM2.5).

 

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru droi canllawiau'r WHO yn gyfraith yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru a fyddai'n mynd i'r afael â phrif ffynonellau llygredd aer a sicrhau bod pawb, o'r Llywodraeth a llywodraeth leol i fusnesau a'r cyhoedd, yn cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd brys hwn.

Rhagor o fanylion

Ymchwil a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon oedd yr ymchwil gyntaf i brofi bod dod i gysylltiad ag aer o ansawdd gwael yn y tymor byr a'r tymor hir yn gallu achosi problemau cardiofasgwlaidd difrifol a'u gwneud yn waeth. Cadarnhaodd ein hymchwil fod cysylltiad clir rhwng clefyd cardiofasgwlaidd a dod i gysylltiad â gronynnau tra mân PM2.5, a bod anadlu gronynnau mân yn gallu cynyddu'r risg i grwpiau bregus o gael trawiad ar y galon neu strôc o fewn 24 awr.

Amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer ym 2017 yn cyfrannu at 2,000 o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Gorchmynnwyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid, ond nid oes eto gynllun i fynd i'r afael â deunydd gronynnol, ac ychydig iawn o fanylion sydd ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gwella'r gwaith monitro llygryddion ledled Cymru.

Byddai Deddf Aer Glân newydd i Gymru yn:

- Sicrhau bod cyfraith Cymru yn defnyddio canllawiau'r WHO ar gyfer llygredd aer;

- Cyflwyno ffioedd Barthau Aer Glân mewn ardaloedd sy'n torri neu sy'n agos at y terfynau ar gyfer nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, a neilltuo'r arian ar gyfer gwella ansawdd yr aer ymhellach;

- Sicrhau bod seilwaith a thechnoleg ar waith fel y gallai mwy o bobl ddefnyddio Cerbydau Allyriadau Tra Isel a thrafnidiaeth gyhoeddus;

- Buddsoddi mewn gwell monitro llygredd ledled Cymru, a sicrhau bod gwybodaeth am y risgiau i iechyd ar gael i grwpiau bregus;

- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith llosgi coed yn y cartref ac o'r camau y gellir eu cymryd i'w lleihau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

150 llofnod

Dangos ar fap

5,000