Deiseb a gwblhawyd Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach fel bod busnesau sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai yn cael disgownt o 100 y cant. At hynny, bod unrhyw fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,000.01 a £20,000 yn cael disgownt/rhyddhad ar system raddedig rhwng 0 a 100 y cant.

Rhagor o fanylion

​Ar hyn o bryd nid yw'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach ond yn cynnig disgownt o 100 y cant i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000. Ond, yn Lloegr, mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn cael disgownt o 100 y cant.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,132 llofnod

Dangos ar fap

5,000