Deiseb a gwblhawyd Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

 

 

Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd drwy ei chyllidebau fesul llinell a chael gwared ar wariant gwastraffus er mwyn sicrhau ei bod yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn defnyddio Castell-nedd Port Talbot fel enghraifft drwy gydol y ddeiseb hon, am ein bod yn byw yno ac yn gweithio i CBSCNPT, ond gan ddeall bod pob awdurdod unedol yng Nghymru dan bwysau ariannol eithafol.

 

Rydym yn cytuno bod gan bob awdurdod rôl wrth gael gwared ar wariant gwastraffus, ond wrth ystyried darpariaeth gwasanaeth nawr, yr unig gwestiwn ym mhob awdurdod yw "A yw'n ddigon da?" yn hytrach nag "A yw'n arfer gorau?"; ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael gwared ar unrhyw wariant gwastraffus ac, erbyn hyn, mae yn y sefyllfa lle mae angen iddo ystyried cau gwasanaethau anstatudol megis parciau a gwasanaethau hamdden, mewn gwrthwynebiad uniongyrchol i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Dim ond yr esgyrn sydd ar ôl erbyn hyn.

 

Erbyn hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru wario'n glyfrach, nid gwario llai. Heb wariant clyfar gan Lywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau allweddol ein cymuned yn cael eu cwtogi neu eu colli. Bydd rhagor o doriadau cyllidebol yn dinistrio swyddi, gwasanaethau a chymunedau lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gyflogwr pwysig a bydd rhagor o ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith enfawr ar yr economi leol fel ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn un o'r cynghorau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae angen cyllid ychwanegol arno i gynnal y gwasanaethau a ddarperir i'r rhai mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r prif gyflogwr yn yr ardal a bydd unrhyw ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod yn gynaliadwy ac aros yn fewnol. Bydd toriadau cyllidebol yn arwain at fwy o amddifadedd yn ein cymunedau a cholli swyddi'n orfodol gyda gwasanaethau'n diflannu am byth.  

Mae diffyg cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn arwain at ddarpariaeth gwasanaeth sy'n aflonyddgar, yn gostus ac o ansawdd gwael; colli cyfleoedd cyflogaeth, telerau ac amodau cyflogeion ac, yn bwysicaf oll, golli atebolrwydd democrataidd os caiff gwasanaethau eu colli i'r sector preifat neu'r trydydd sector a disbyddu cyllidebau wrth gefn. Rydym yn cytuno â gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, llawn addewid a chynaliadwy sydd â chysylltiadau da, gydag economi leol gref ac ansawdd bywyd da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn sicrhau diogelwch a llesiant ein preswylwyr ledled Cymru gyda chanlyniadau gwell i bawb.

Mae dyrannu cyllid yn ddoethach yn hanfodol er mwyn sicrhau model gofal cymdeithasol llewyrchus ac integreiddiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.  Mae angen dyfarnu cyllid trawsnewidiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau nad oedi wrth drosglwyddo gofal o ddarpariaethau ysbyty yw'r canlyniad i breswylwyr sy'n agored i niwed ac yn aml yn fregus.  Rhaid i Lywodraeth Cymru ddod i'r penderfyniad na ddylai awdurdodau unedol fod y berthynas dlawd wrth ddyrannu pwrs y wlad ac ni ddylid disgwyl iddynt roi deddfwriaeth ddrud ar waith heb i'r cyllid priodol gael ei ddyfarnu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

225 llofnod

Dangos ar fap

5,000