Deiseb a gwblhawyd Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried yn ffurfiol y cynnig amgen ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, a gaiff ei hadnabod fel 'Pont Bendigeidfran' (fel y'i disgrifir yn y fideo hwn https://www.youtube.com/watch?v=Ty2q-ctJZKM).

 

Mae'r cynnig hwn yn cynnig buddion cynyddol o ran cost oes gyfan, ei allu i wella'r tirlun arbennig, buddion o ran traffig (o ran llif traffig a chadernid y rhwydwaith), lleddfu amgylcheddol, hybu twristiaeth, a hyrwyddo diwylliant Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd yn well â'r ddeddfwriaeth gyfredol, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ymddengys bod modd cyflawni'r cynnig hwn o safbwynt peirianyddol, a bydd yn ychwanegiad mwy priodol i'r ddwy bont fyd enwog y ceir eioes yn y lleoliad hwn.

 

Rydym felly'n galw am asesu'r cynnig amgen hwn yn llawn ochr yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol a gyflwynwyd yn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch trydedd bont dros y Fenai.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

278 llofnod

Dangos ar fap

5,000