Deiseb a gwblhawyd Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i mewn i ran Cadw yn y broses o roi caniatâd cynllunio i adeiladau rhestredig er mwyn gwneud gwaith addasu i eglwysi. Mae hyn yn rhwystro cynulleidfaoedd gweithgar a hyfyw rhag defnyddio adeiladau rhestredig yng Nghymru, a, thrwy hynny, cânt eu cadw mewn cyflwr o inertia pensaernïol: nid ydynt yn gallu elwa o ddatblygiadau modern mewn deunyddiau adeiladu, ac mae’n anodd i eglwysi wneud y newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt wasanaethau’r genhedlaeth nesaf a’r gymuned leol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

147 llofnod

Dangos ar fap

5,000