Deiseb a gwblhawyd Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru orfodi gwell bolisïau cod ymddygiad i gyflogeion awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae swyddogion awdurdod cynllunio yn cael rhedeg cwmnïau ymgynghori cynllunio preifat a chyflawni eu rolau cyhoeddus ar yr un pryd. Nid oes adnodd ar gael y gellir ei fuddsoddi er mwyn plismona’r cwmnïau preifat hyn, lle y’u datgenir yn y ffurflenni angenrheidiol, er atal twyll a llygredd.

A chymryd swyddogion cynllunio fel enghraifft, mae potensial y gallai rhedeg busnesau ymgynghori preifat ‘yn ddistaw bach’ hwyluso llygredd, gan fod llawer o fathau, yn gyffredinol yn ymwneud â chamddefnyddio swydd. Mae angen rhoi terfyn ar yr arfer hwn ar unwaith a rhaid diwygio’r cyfansoddiadau fel na cheir ymddwyn yn y modd hwn mwyach. Rydym yn galw am fwy o atebolrwydd a thryloywder gan ein hawdurdodau lleol, a rhaid pennu safonau ymddygiad mewn swyddogaethau cyhoeddus o’r fath a fyddai’n uwch na rhai’r sector preifat, lle mae hyn yn hynod annerbyniol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

56 llofnod

Dangos ar fap

5,000