Deiseb a gwblhawyd Achubwch ein hysgolion bach
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion bach ac yn benodol i gefnogi cynghorau er mwyn iddynt gadw ysgolion bach ar agor. Rydym yn credu bod ysgolion bach yn galon cymunedau gwledig, yn hanfodol i helpu’r iaith Gymraeg i oroesi, ac, uwchlaw bob dim, yn ganolfannau o ragoriaeth academaidd i’n plant. Rydym yn gofyn bod y Cynulliad yn ailystyried sut mae’n defnyddio meini prawf y Comisiwn Archwilio i ddynodi ysgolion fel rhai bach, a’r ffordd y mae’n dewis ariannu adeiladau newydd yn hytrach nag ailnewyddu hen adeiladau.
Gwybodaeth bellach: Mae ysgolion bach yn cau ledled Cymru. Mae’r ddeiseb hon yn uno’r holl bobl sy’n pryderu bod eu hysgolion o dan fygythiad ac yn cydnabod bod hwn yn fater Cymru gyfan. Mae gan y Cynulliad bwerau i helpu i atal yr ysgolion hynny rhag cael eu cau . Mae llawer o ysgolion wedi bodoli am ddegawdau, os nad am gannoedd o flynyddoedd. Nid oes gan bawb fynediad at gar ac nid yw’n iawn i gludo plant ifanc am filltiroedd mewn bws bob dydd. Mae cau’r ysgolion hyn yn groes i egwyddorion sylfaenol datblygu cynaliadwy sydd wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad y Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon