Deiseb a gwblhawyd Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr un trefniadau ariannu ar gael i fyfyrwyr ble bynnag mae nhw'n dewis astudio, a bod yr opsiynau ariannu hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu hastudiaethau.

Ar hyn o bryd mae gan fyfyrwyr y dewis i astudio yn y DU ac Iwerddon ac mae rhywfaint o opsiynau astudio yn Ewrop ar gael, ond pam na allant astudio ar gyfer gradd gydnabyddedig ledled y byd os yw'r rhaglen y maent yn ei dewis yr un mwyaf addas i'w hamcanion gyrfa cyffredinol.

Yn 2017, derbyniwyd Georgia Ellis ar y cwrs Doethuriaeth mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Quinnipiac yn yr Unol Daleithiau. Mae'r radd bagloriaeth yn radd y celfyddydau breiniol sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau safonol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, ac fel rhan o'r broses o ennill ei gradd israddedig bydd Georgia'n astudio maes arall o'i dewis, sef Astudiaethau Busnes. Er bod y rhain yn fanteision gwych, dewisodd Georgia yr opsiwn astudio hwn gan mai ei huchelgais yw dod yn ffisiotherapydd ar gyfer tîm chwaraeon yn y pen draw, ac oherwydd yr amlygiad i dimau chwaraeon y byddai'n ei gael yng nghanolfan bwrpasol hyfforddiant iechyd y Brifysgol arbennig hon.

Pam na all myfyrwyr fanteisio ar yr un trefniadau ariannu ag y byddai ganddynt yma yn y DU ar gyfer cyllido opsiynau astudio eraill. Mae stori Georgia yn ddim ond un enghraifft o safon dda myfyrwyr y DU, ond mae llawer mwy.

Arwyddwch y ddeiseb hon i gefnogi'r opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

127 llofnod

Dangos ar fap

5,000