Deiseb a gwblhawyd Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru.

 

Ar 17 Gorffennaf 2018, dywedodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru: 

"Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol.  Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru."

 

Mae syrcas yn ffurf ar gelf ynddo'i hun. Er bod syrcasau wedi'u cysylltu'n gryf â'r defnydd o anifeiliaid yn y gorffennol, mae'n amlwg bod chwaeth y cyhoedd mewn materion o'r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dangosir hyn gan nifer cynyddol y syrcasau sy'n cynnwys pobl yn unig, ynghyd â llwyddiant y syrcasau hyn. Tra bod y sioeau hyn yn aml yn cael eu perfformio o flaen cynulleidfaoedd llawn heb unrhyw brotestwyr tu allan i'r babell, mae'n deg dweud bod y gwrthwyneb yn wir o ran y syrcasau a'r sioeau teithiol sy'n parhau i ddefnyddio anifeiliaid, hyd yn oed y rhai sy'n defnyddio anifeiliaid nad ydynt wedi'u diffinio fel anifeiliaid gwyllt. 

Rhagor o fanylion

Mae nifer o wladwriaethau a gwledydd yn gwahardd pob anifail mewn syrcasau a sioeau teithiol. Disgwylir i'r Eidal (sydd â chysylltiad hanesyddol â'r diwydiant syrcas anifeiliaid) wneud hyn flwyddyn nesaf. Mae'r pryderon o ran lles sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, fel teithio, llwytho a dadlwytho parhaus a gorfodi anifeiliaid i berfformio, ynghyd ag amgylcheddau cymdeithasol amhriodol ac annaturiol, yn berthnasol i bob anifail a ddefnyddir yn y modd hwn. 

 

Dylid gwahardd defnyddio anifeiliaid mewn unrhyw sioe deithiol ar gyfer adloniant pur ac i wneud arian i bobl fel menter fasnachol.  Yn anffodus, y llynedd, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y byddai Llywodraeth Cymru yn trwyddedu arddangosfeydd teithiol sy'n cynnwys anifeiliaid. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,651 llofnod

Dangos ar fap

5,000