Deiseb a gwblhawyd Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

​Pan oeddwn yn iau, cefais fy amddifadu o'r hawl i astudio fy iaith frodorol yn yr ysgol ac, oherwydd hynny, nid wy'n siarad fy iaith frodorol heddiw. Rwyf i, a chynifer o bobl eraill o'm cenhedlaeth, a hyd yn oed y genhedlaeth iau, yn cael eu hamddifadu o'r modd i siarad Cymraeg oherwydd nad oedd addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn llwyddiannus gyda hwy yn y gorffennol. Dyna pam rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud iawn am gamweddau'r gorffennol, a dangos gwir arweinyddiaeth i ymladd dros fy hawl i ddysgu fy iaith fy hun drwy ddarparu dosbarthiadau ac adnoddau Cymraeg am ddim. Rydym yn gofyn i Weinidog y Gymraeg gefnogi'r cynnig hwn ac ariannu'r dosbarthiadau fel y caf i, a llawer o bobl eraill a gafodd eu hamddifadu o'r iaith, y cyfle i'w siarad unwaith eto. Byddai hyn yn cyd-fynd yn llwyr â chynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod, sef Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a byddai'n rhoi sbardun i bobl ail-afael yn eu diwylliant a'u mamiaith unwaith eto. Gofynnwn i'r Llywodraeth weithio gydag asiantaethau gwahanol i ddarparu'r gwersi hyn i bobl mewn ardaloedd gwahanol a thrwy drefnu i'r gwasanaethau dysgu fod ar gael i bobl ar y we. Hefyd i ddarparu llyfrynnau a phapurau i bobl wahanol o gefndiroedd gwahanol yng Nghymru er mwyn cael cyfle i ddysgu'r iaith.

A fyddech cystal â sicrhau hyn i bobl Cymru sy'n awyddus i adennill eu diwylliant a'u hiaith frodorol?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

95 llofnod

Dangos ar fap

5,000