Deiseb a gwblhawyd Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Tasglu Cenedlaethol i ymchwilio i ba ffactorau diwylliannol, ffactorau cymdeithasol a ffactorau gwleidyddol a allai fod yn cyfrannu at nifer y plant yng Nghymru sy’n dioddef iechyd meddwl gwael; a bod y Tasglu Cenedlaethol hwn:

1) Yn cynnwys yn ei aelodaeth: plant; cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant; cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru; academyddion sy’n ymwneud ag ymchwilio i bolisi cymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, diwylliant, cymdeithas ac economeg;

2) Yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Plant Cymru sydd yn y swydd pan grëir y Tasglu hwn, ac y dylai aros yn Gadeirydd y Tasglu am ei hyd, pe bai’n cytuno i wneud hynny (waeth a yw’n parhau’n Gomisiynydd Plant Cymru am oes y Tasglu ai peidio - ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol);

3)

 chyfrifoldeb am lunio adroddiad yn seiliedig ar ei ymchwiliadau sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ei ganfyddiadau; ac y

4) Dylai Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’r Tasglu Cenedlaethol hwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phreswylwyr Cymru (gan gynnwys plant), edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad.

Rhagor o fanylion

​Menter gymdeithasol sydd newydd ei sefydlu yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Cyf. Ein hamcan yw cefnogi datblygiad diwylliant cenedlaethol sy’n galluogi plant i gynnal iechyd meddwl ardderchog, drwy helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda a / neu ar gyfer plant, i greu’r amgylchedd gorau lle gall iechyd meddwl pob plentyn ffynnu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

91 llofnod

Dangos ar fap

5,000