Deiseb a gwblhawyd Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol
Mae'r syniad y tu ôl i dai plant yn seiliedig ar yr arferion gorau a welir yn yr UDA a Sgandinafia. Gan gydnabod bregusrwydd plant sy'n ddioddefwyr, a'r niwed y mae cyfweliadau niferus yn ei achosi iddynt, mae tai plant yn ymateb sy'n ystyriol o blant wrth ymdrin ag achosion lle y cam-driniwyd plentyn yn rhywiol.
Yn y DU, mae dau dŷ plant yn ninas Llundain, ond nid oes yr un yng Nghymru.
Nid yw plant yn gwybod at bwy nac i ble y gallent droi, nid ydynt yn gwybod bod cymorth ar gael, ond trwy gynnig Tai Plant ledled y DU, gallwn achub plant.
Parhau â llochesi i ddioddefwyr trais domestig, ond dylai fod Tai Plant ar gyfer plant sy'n dioddef camdriniaeth rywiol.
Gwyddom y bydd llawer o blant sy'n cael eu cam-drin yn ceisio dianc rywbryd; byddant am ddod yn rhydd o'u sefyllfa, ond nid oes ganddynt rywle i droi. Cânt eu dychwelyd adref, yn ôl i afael y sawl sy'n eu cam-drin.
Gallai darparu tŷ diogel sy'n ystyriol o blant agor y ffordd at ddatgelu a diogelu.
Yng Ngwlad yr Iâ, mae model 'Barnahús' ar waith er 1998, sef lle ar gyfer cynnal cyfweliadau fforensig, gwneud datganiadau llys, cynnal archwiliadau meddygol a chael mynediad at wasanaethau therapiwtig, i gyd o dan un to. Dylem roi hyn ar gael, fel y gwnawn o ran llochesi i ddioddefwyr trais domestig. Ers i Wlad yr Iâ sefydlu'r model Barnahús, mae nifer y plant sy'n gofyn am gymorth ar ôl dioddef camdriniaeth rywiol wedi mwy na dyblu bob blwyddyn, mae nifer y cyhuddiadau wedi treblu, ac mae nifer yr euogfarnau wedi dyblu. Mae hyn yn ddigon o dystiolaeth i ddangos bod y tai hyn yn hanfodol.
Dylid darparu tai plant, ac ar ben hynny dylid dysgu i blant fod yr opsiynau hyn ar gael.
Ymunwch â ni yn yr ymgyrch i fynd i'r afael â'r mater hwn, a phwyso ar i Lywodraeth Cymru ddarparu Tŷ Diogel yng Nghymru - ni allwn ddisgwyl i blant fynd i Lundain, hyd yn oed lle maent yn gwybod am fodolaeth tai o'r fath.
Rhagor o fanylion
Mae ar ein plant angen rhywle iddynt fynd iddo, mae angen iddynt fod yn ddiogel, ac mae angen iddynt allu cyrraedd y cymorth cywir i achub y plant hyn rhag oes o ddioddef oherwydd Camdriniaeth Rywiol.
Llofnodwch y ddeiseb hon a gwneud i bethau ddechrau symud!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon