Deiseb a gwblhawyd Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Rhowch y gorau i'r cynlluniau i adeiladu traffordd yr M4 ar draws harddwch Gwastatir Gwent a buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.

Pam mae hyn yn bwysig?

Bydd y cynlluniau presennol i ymestyn traffordd yr M4 yn peryglu dyfrgwn, gwenyn prin a blodau gwyllt. Byddai'n torri ar draws fersiwn Cymru o 'Goedwig Law Amazon', Gwastatir Gwent, sy'n hafan i fywyd gwyllt.

Mae angen gwella'r traffig o amgylch Casnewydd, ond byddai'n well i Gymru a'r amgylchedd pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.

Os ydym eisiau gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni feddwl am opsiynau amgen yn lle traffyrdd llygredig mawr. Mae rheolydd a chyrff cynghori y Cynulliad ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwrthwynebu'r cynlluniau hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

12,270 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru a'r deisebwyr a phenderfynodd beidio â gofyn am ddadl ar y ddeiseb oherwydd bod y mater hwn yn cael ei ystyried yn rheolaidd yn y Cyfarfod Llawn, ac oherwydd y gwaith craffu cynhwysfawr yn sgil yr ymchwiliad cyhoeddus.