Deiseb a gwblhawyd Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd drwy Gymru ac y caiff y cynnwys ei adolygu bob blwyddyn gan fwrdd o bobl ifanc etholedig.
Rhagor o fanylion
Byddai cwricwlwm sgiliau bywyd yn cynnwys pynciau fel: cyllid, rhyw a pherthnasoedd, gwleidyddiaeth a sgiliau byw sylfaenol. Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn dweud bod gan blant yr hawl i addysg. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol, fodd bynnag, yn methu â darparu'r sgiliau bywyd y mae eu hangen arnom.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon