Deiseb a gwblhawyd Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth
* Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol brys ar gyfer Addysg Cerddoriaeth gydag arian canolog penodol, yn unol â gweddill y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod gwersi offerynnau cerdd a hyfforddiant llais fforddiadwy ar gael fel hawl i bob plentyn yng Nghymru.
Mae'r Gwasanaethau Cerddoriaeth yng Nghymru yn rhan annatod o ddatblygiad Addysg Cerddoriaeth fel rhan o'r cwricwlwm creadigol ar draws pob maes.
Mae'r cyfraniad a wneir gan y diwydiant a'r gwasanaethau cerddoriaeth i economi a llesiant pobl Cymru yn rhy bwysig i'w anwybyddu.
Mae nifer y bobl ifanc sy'n astudio cerddoriaeth ar lefel Uwch yng Nghymru wedi haneru mewn deng mlynedd ac mae nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU wedi lleihau 40 y cant.
Nid yw cyni yn esgus i Lywodraeth Cymru ganiatáu dirywiad ein Gwasanaethau Cerddoriaeth. Dylai cyni fod yn rheswm dros fuddsoddi yn yr hawl cyfartal i bawb gael gwasanaethau, a chynaliadwyedd ein cymunedau.
Arwyddwch y ddeiseb hon i gefnogi'r ymgyrch i atal dirywiad Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon