Deiseb a gwblhawyd Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

​Dylai addysg roi'r sgiliau a'r offer i bobl ifanc a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn ddinasyddion gwerthfawr sy'n ymgysylltu â'r wlad.

Er gwaethaf y datblygiadau mawr sydd wedi digwydd yn sgil y cyfryngau cymdeithasol a chylchoedd newyddion cyflym, mae pobl ifanc yn aml yn ystyried gwleidyddiaeth yn bwnc tabŵ, gan ei weld fel mater nad ydyw i'w tebyg hwy.

Rydym yn credu y dylai pobl ifanc adael addysg gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o sefydliadau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Argymhellodd adroddiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol y dylid addysgu pedair agwedd allweddol mewn ysgolion – y pleidiau, democratiaeth, rôl sefydliadau ac ymgyrchu.

Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw i arwain y ffordd ar y mater hwn gan ei bod wrthi'n datblygu ei chwricwlwm cenedlaethol cyntaf. Fel un o'i bedwar cysyniad allweddol, nod y cwricwlwm newydd yw creu dinasyddion "moesegol a gwybodus". Felly mae rheswm yn dweud y dylai addysg wleidyddol fod yn rhan hanfodol o hyn.

Mae datblygiad y cwricwlwm hwn yn gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru chwyldroi'r ffordd y mae'n addysgu ei phobl ifanc, gan greu'r dinasyddion a fydd yn arweinwyr y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

117 llofnod

Dangos ar fap

5,000