Deiseb a gwblhawyd Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

​Rydym yn credu bod achosion o fwlio mewn ysgolion yn cael eu hanwybyddu’n aml ac nad yw’r mater yn cael ei wynebu mewn gormod o achosion. Mae’n ofynnol i ysgolion fod â pholisi gwrth-fwlio ond, yn rhy aml, datganiad gwaith papur yn unig yw hyn na weithredir arno.

Rydym am i Gynulliad Cymru greu fframwaith gwrth-fwlio safonol y gellir ei orfodi drwy’r gyfraith. Mae bwlio mewn ysgolion yn aml yn effeithio ar y dioddefwyr ar hyd eu bywydau, felly mae angen newidiadau gan fod y system bresennol yn fethiant.

Yn aml, nid yw ysgolion yn cofnodi achosion o fwlio o’r fath oherwydd ofn gwneud niwed i’w henw da ac mae’r dioddefwyr sy’n codi llais yn aml yn canfod eu bod eu hunain yn cael eu cosbi, gan wneud mwy fyth o niwed i’w hunan-barch. Rydym yn mynnu y caiff achosion o fwlio eu cofnodi ac y gweithredir arnynt drwy system gofnodi well, teledu cylch cyfyng, adrodd, a chyswllt gorfodol â rhieni

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,463 llofnod

Dangos ar fap

5,000